Y Cymry yng nghalon y we
Tuesday, April 10, 2007
Henffych blogwyr!
Mae'n debyg fod hen wr doeth y BBC, Vaughan Roderick, wedi ymuno a'r byd blogio Cymraeg. Cafodd groeso cynnes ar faes-e wrth i'r werinwyr tynnu ei sylw at y blogiau gwleidyddol sydd wedi bod wrthi eisioes.
Rhaid i mi gyfaddef nad ydw i chwaith wedi bod yn darllen y blogiau Cymraeg mor aml ag y ddylwn i. Felly, dwi wedi ychwanegu is-adran arbennig o ddolennu at flogiau gwleidyddol yn yr heniaith. Dyma nhw yn eu ysblander nefol:
Annibyniaeth i Gymru; Blog Cymru; Bratiaith; e-clectig; Golwg o'r Garn Wen; Golygon Gasyth; Gwenu dan Fysiau; Hen Rech Flin; Hogyn o Rachub; Rhys Llwyd
Os oes yna mwy, plis gadewch i mi wybod yn y sylwadau ac hefyd rhowch ddolen yn ol tuag at fan hyn. Dal ati bois!
Labels: blogiau Cymraeg, blogiau gwleidyddol Cymraeg, blogio, Iain Dale, maes-e, Vaughan Roderick
posted by Blamerbell @ 6:51 pm,
5 Comments:
- At 9:28 am, said...
-
Gwych - gwerth ychwanegu hefyd www.maes-e.com? Ddim yn blog ond lot o stwff da arno a digon o sylwadau cegog ... ac ardegau call!
Huw - At 9:41 am, said...
-
erm, sori, newydd weld fod maes-e wedi ei gynnwys (fi'n beio'r athrawon). Mae'r Blogiadur yn gasgliad o flogiau hefyd www.blogiadur.com gan fod blogcymru lawr.
Huw - At 1:58 pm, said...
-
mae maes e yn crap.mae e i ddynion sydd just am glywed llais eu hunain.
- At 2:19 pm, Blamerbell said...
-
ew, gwrthdaro yn y rhithfro!
Mi wna i ychwanegu'r blogiadur a maes-e heno.
Diolch am y sylwadau. - At 5:42 pm, said...
-
Da iawn, Blamy, a diolch.