Maes-e ar gau

Erthygl 10 o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (wedi addasu ar gyfer y we):

"Mae gan bawb yr hawl i ryddid mynegiant (Ar wahan i bobl sydd am wneud sylw ar maes-e). Bydd yr hawl hon yn cynnwys rhyddid i gael barn ac i gael a rhoi gwybodaeth a syniadau heb ymyriad gan awdurdod cyhoeddus (Ar wahan i'r bobl sy'n rheolu mae-e) a heb ystyried ffiniau (Ar wahan i ffiniau maes-e). Ni fydd yr Erthygl hon yn atal Gwledydd rhag pennu gofyniad i drwyddedu mentrau darlledu, teledu neu sinema."

Dim ond eisiau mynegi barn ydw i...

Labels: , ,

posted by Blamerbell @ 1:29 am,

32 Comments:

At 2:09 am, Blogger Alwyn ap Huw said...

Gwefan bersonol Nic Dafis yw Maes-e, nid awdurdod cyhoeddus. Mae gan Nic yr hawl i wneud fel y mynno ar ei ran fach e o'r we yn yr un modd a bod hawl gennyt ti i wneud a fynni efo dy ran fach di o'r we.

 
At 8:56 am, Blogger Marcusian said...

Bit of saesneg os gwelch yn da

 
At 9:16 am, Blogger Rhys Wynne said...

Roedd Nic wed sylwi bod ambell i berson wedi bod yn cofrestru'n ddi-enw'n ddiweddar, gyda'r bwriad o bostio pob math o rwtsh. Mae maes-e.com wedi dod yn wefan hynod o boblogaidd, ac yn golygu llawer o waith cymedroli i Nic. Dwi ddim yn ei feio o gwbwl i gael'r maes i aelodau newydd - mae hyn yn rhywbeth sy'n digwydd o dro i dro ar sawl gwefan tebyg. Os ti wirioneddol eisiau ymuno, galli di ddanfon e-bost ato.

Nic, (the owner of maes-e.com) had noticed that a lot of people (or the some person ) had been trying to register on the forum just to post all sorts of abusive crap. As the website has become so popular, it means a lot of administrating work for Nic, and I don't blame him for closing the site for new members for a while.

Mae'r awgrym fod Nic Dafis rhywsut yn rwystr i free speech ar y Rhithfro/we yn gyffredinol (os mai dyna wyt ti'n geisio awgrymu) yn tipyn o jôc!

Llongyfarchiadau ar fod â cholofn yn Golwg gyda llaw, heb ei ddarllen eto.

 
At 9:27 am, Blogger Hogyn o Rachub said...

Maes E yn gwrth-ddweud y Cenhedloedd Unedig.

Haha!

Argol mae gwaith yn boring.

 
At 9:42 am, Blogger Rhys Wynne said...

Ymddiheuriadau Ciaran, newydd sylwi bod edefyn ar maes-e yn dy drafod, ac felly siwr dy fod yn awyddus i gyfrannu ;-)

...ac yn sylweddoli mai 'tafod yn y boch' ydi dy gofnod (dwi braidd yn araf gyda pethau felly).

Os ti eisiau ymateb i'r edefyn yn y cyfamser, be am bostio yma?

Os ti am ddechrau blogio'n Gymraeg gyda llaw, beth am ddechrau blog yn defnyddio Nireblog - mae fel Blogger, ond yn gwbwl Gymraeg. Dim ond newydd ei gwbwlhau ydi'r cyfieithiad CYmraeg, felly mond rhwy 3-4 blog sydd arno ar hyn o bryd, ond mae'n gweithio'n dda.

 
At 9:42 am, Blogger Bonheddwr said...

Dwi ddim yn meddwl fod Ciaran 100% o ddifri yma bois ;-)

Danfona ebost at nic[at]maes-e.com , a dwi'n siwr wneith e adael i ti ymaelodi :-)

 
At 11:36 am, Blogger Blamerbell said...

Paid cymryd pethau mor llythrennol, Alwyn. Dyle dyn dy oedran di fod yn gallu synhwyro rhywun yn tynnu coes:)

Paranoia?

 
At 11:53 am, Blogger Blamerbell said...

Amser i ddelio efo hwn a hwn.

Dywedodd Rhys Llwyd:

"Colofn dda newydd yn Golwg heddiw, colofn gan Ciaran Jenkins o Ferthyr. Mae'n frawd i Bethan Jenkins aelod newydd Plaid Cymru dros Dde Orllewin Cymru ac dwi'n amau ei fod yn dod i ddiwedd ei gwrs yn y Coleg Newyddiadurol yng Nghaerdydd a chyn hynny graddiodd o Gaergrawnt neu Rhydychen (ddim yn cofio pa un!)

Mae ganddo flog Saesneg yma. mae'r blog yn un treiddgar a difyr iawn. Fodd bynnag dwi a sawl un arall yn y rhithfro wedi siomi gyda Golwg am groesi'r ffordd a chynnig colofn i flogiwr Saesneg – does dim bai ar Ciaran o gwbl am hyn; pe bai'r Western Mail yn cynnig colofn Saesneg i mi wrth gwrs y baswn ni'n derbyn. Ond mae gweld Golwg yn cynnig colofn i Ciaran yn slap yn wyneb pawb sydd wedi bod yn ddiwyd yn cynnal blogiau Cymraeg ers blynyddoedd bellach – lle mae'r gydnabyddiaeth Golwg? Gan fod Ciaran, bid siŵr, yn cael mymryn o bres prin y wasg Gymraeg bellach dwi'n gobeithio y gwnaiff wrogaeth a hi drwy ddechrau blogio'n Gymraeg yn awr.

Rwy'n ddigon o ddyn i gyfaddef fod yna elfen o eiddigedd ynghlwm wrth y gwyn (fe fydd rhai wedi sylwi fod fy ngholofn gerdd yn Barn wedi cael mynd – 'rhy hir' yn ôl y Golygydd newydd ac am gael mwy o bethau pytiog yn lle) yma ond mae yna ddicter hefyd gyda Golwg am edrych heibio'r gwaith diwyd y mae blogwyr Cymraeg wedi gwneud ers blynyddoedd ac yna cynnig colofn i flogiwr Saesneg."

Fy ymateb i oedd:

"Mae dy paragraff cyntaf yn gwneud synnwyr o leiaf:)

Yr unig peth sy'n bwysig yw bod y colofn yn "dda".

Dyna dwi'n poeni amdano!

Beth am gwyno i Betsan Powys am y ffaith ei bod hi'n gohebu trwy'r Gymraeg ond yn blogio yn Saesneg??

Os ydyn ni am gael Cymru deinamig a dwy-ieuthog, rhaid i ni erfyn pobl i weithtio trwy gyfrwng y dwy iaith . Yn delfrydol, dylai fod dim siwt beth a newyddiadurwr 'Cymraeg' a newyddiadurwr 'Saesneg'. Mae'r ffaith bod pobl dal yn gwneud y gymhariaeth yn dangos pa more bell sydd 'da ni i fynd."

Bois bach!!

Mae angen i ni ddathlu'r ffaith ein bod ni'n medru trafod gwleidyddiaeth trwy'r ddwy iaith, a'r ffaith bod y trafodaeth mor ddifyr. Dim ots os ydy o'n Saesneg neu Cymraeg neu fflipin Swahili.

Dwi ddim yn deall apel cyfyngu ein hunain at fynegiant unieithog.

 
At 12:00 pm, Blogger Rhys Llwyd said...

"Dwi ddim yn deall apel cyfyngu ein hunain at fynegiant unieithog."

Nid dyna yw fy mhwynt. Fy mhwynt yw fod hi'n drist o beth yn 2007 fod dal yn rhaid i Gymro wneud rhywbeth yn Saesneg i gael ei dderbyn yn brif ffrwd. Dwi ddim yn erbyn ti yn neud stwff yn Gymraeg a Saesneg jest o nin gweld e'n dirist fod rhaid i chi neud pethe yn Saesneg i neud eich marc. Fel ddywedodd hen gan y trwynau coch: "Gorfod siarad mewn ail-iaith, er mwyn cael rhyw fath o adwaith"

 
At 12:16 pm, Blogger Blamerbell said...

Rhys, y ffaith fy mod i'n blogio am wleidyddiaeth sydd wedi neud i bobl talu sylw, nid y ffaith fy mod i'n neud hynny trwy Saesneg.

 
At 1:22 pm, Blogger Hogyn o Rachub said...

O ran blogiau gwleidyddol yng Nghymru dyma'r gorau o gryn ffordd, yn Gymraeg neu'n Saesneg.

Nid afresymol felly gofyn i rywun sy'n ysgrifennu i'r math safon gwneud hynny'n Gymraeg os medrant. Os na chynigiwyd i blogiau sy'n gwneud yn Gymraeg eisoes ysgrifennu colofn o'r math, yna efallai y byddai ychydig o hunan-adlewyrchiad yn beth da.

Nid bod blogiau gwleidyddol Cymraeg o safon isel, ond efallai nad ydynt at y safon a arddangosir fan hyn.

Mae'n rhaid derbyn bod rhai pobl yn ei chael yn hawdd ysgrifennu'n Saesneg yn hytrach na Chymraeg (er wn i ddim os ydi hynny'n wir fan hyn?). Byddwn i byth yn gwneud yn Saesneg - bydda fo ddim yn fy siwtio i na fy mlog. Nid dyna'r achos fan hyn, o bosib.

Gobeithiaf y bydd y safon yn parhau'n uchel yn Golwg a phob lwc i ti, Ciaran.

(nid fy mod i'n darllen Golwg)

 
At 2:03 pm, Blogger Rhys Llwyd said...

Os na fuaswn ni'n weithgar yn wleidyddol gyda plaid a mudiadau (yn hytrach na jest talk the talk ar blogs a maes-e) sydd mynd i wneud gwahaniaeth maen debyg y byddai fy mlog i yn cael mwy o sylw ac fe fyddai'n well.

 
At 2:42 pm, Blogger Hogyn o Rachub said...

Ti'n torri dy fol isio colofn Golwg yn dwyt? ;-)

 phob parch ond nid ymosod ar dy flog di oeddwn i, nac 'ymosod' ar un neb arall, dim ond dweud yn blaen mai dyma'r blog gorau am wleidyddiaeth Cymru sydd o gwmpas ar hyn o bryd, yn fy marn i.

A rhag ofn mai cyfeirio ataf fi oeddet ti yn y jib 'talk the talk' uchod, dyma'r tro cyntaf i mi beidio a gweithredu dros Blaid Cymru ers blynyddoedd, ac mae rhesymau digon dilys gennyf dros hynny (nad ydw i, gyda llaw, am eu rhannu na'u cyfiawnhau i neb).

 
At 3:27 pm, Anonymous Anonymous said...

Blog Vaughan i Fynwy yn dangos nad yw iaith yn barrier i greu blog gwleidyddol da a torri lot o straeon da.

Y fact yw bod Ciaran yn gwybod ei stwff yn ba bynnag iaith mae'n ei ysgrifennu.

Dyw bod yn hunanbwysig ac ymosod ar cylchgrawn am beidio rhoi colofn i chi ddim yn professional iawn. Mae media yn darllen y blogs ac mae hynna'n siwr o biso ar chips eich career aspirations.

 
At 3:39 pm, Blogger Der said...

Mae Blamerbell y flog dda.....ond mae nifer o rai eraill dwi'n mwynhau eu darllen hefyd. Dwi ddim yn hoffi clywed rhai yma yn dweud fod Blamerbell 100 waith yn well neu'r "gorau o gryn ffordd." Beth am i chi ddechrau rhyw fath o arselickers blog? Cefnogaeth sydd eisiau ac nid beirniadaeth negyddol.....y cythraul blogio wedi dod i fodolaeth....!

 
At 4:43 pm, Blogger bethan said...

Rhys- dyw e ddim yn deg i ti feirniadu fel hyn. Ar ddiwedd y dydd, mi fydd colofn Ciaran yn y gymraeg yn Golwg!
Mae gan ef a phawb arall rhwydd hynt i ddewis pa iaith i flogio ynddo. Fel rwyf wedi dweud o'r blaen, mae blog yn adlewyrchiad o feddyliai person, ac ni ddylir person cael ei feirniadu am ddewis blogio yn saesneg( na finne chwaith am hynny!)

 
At 9:24 pm, Anonymous Anonymous said...

Dywedodd Hogyn o Rachub...
"Mae'n rhaid derbyn bod rhai pobl yn ei chael yn hawdd ysgrifennu'n Saesneg yn hytrach na Chymraeg (er wn i ddim os ydi hynny'n wir fan hyn?)."

Mae'n wir o rhywyn fel fi. Cymraeg iaith cyntaf a dim o'r hyder i ysgrifennu yn gyhoeddus. Mae'r safon ar y we yn dda!

Efallai, fel dysgu nofio, ddaw yn hawsach wrth ddarllen fwy ar flogs fel hyn.

 
At 11:45 pm, Anonymous Anonymous said...

Dw i'n meddwl fod denu un o flogwyr gorau Cymru i sgwennu colofn Gymraeg yn dipyn o "coup" i'r Gymraeg (ac i Golwg).
Ond wedyn mi fyswn i'n deud hynny, yn byswn ;-)

 
At 8:30 am, Blogger Rhys Llwyd said...

Yn ol yr arfer mae fy sylwadau wedi ei cam-ddehongli a llawer wedi ymateb, Bethan yn arbennig, heb ddarllen fy sylwadau gwreiddiol.

1. Nid beirniadaeth ar Ciaran mo hyn, mae ei flog yn ardderchog

2. Trist fod Golwg wedi troi at flogiwr Saesneg am golofn (hyn yn adolygiad personol i fi fel blogiwr Cymraeg cofiwch)

3. Fel colofnydd cyfoes Cykmraeg nawr byddai'n dda petae Ciaran yn blogio'n Gymraeg - dangos esiampl i eraill.

4. Dwi ddim yn beirniadu am flogio'n Saesneg ond dwi yn tristhau am beidio blogio'n Gymraeg

I fi roedd hyn fel gweld y Poppies yn neud gigs Saesneg trwy'r flwyddyn wedyn yn cael un gig mawr Cymraeg bob steddfod. Oce gret bod nhw actully yn neud gig Cymraeg ond chydig o dywod yng ngwyneb y rhai sydd wedi bod yn gigio'n Gymraeg trwy'r flwyddyn... run syniad. Chi'n deall ym mhwynt i nawr?

O ni ddim moyn hala pobl yn grac, ma pawb sy'n nabod fi (gan geisio peidio swnio gormod fel Blair nawr) yn gwbod nad ydw i'n fochyn!

 
At 9:47 am, Blogger Bonheddwr said...

"Mae gan ef a phawb arall rhwydd hynt i ddewis pa iaith i flogio ynddo. Fel rwyf wedi dweud o'r blaen, mae blog yn adlewyrchiad o feddyliai person, ac ni ddylir person cael ei feirniadu am ddewis blogio yn saesneg( na finne chwaith am hynny!)"

Dwi'n cytuno'n llwyr gyda'r rhan 1af, ond yn anghytuno'n llwyr gyda'r 2il ran - fel dwi wedi nodi'n glir ar dy flog yn y gorffenol Bethan.

Mae blog personol yn un peth, a cytunaf 100% y dylai person gael blogio ym mha bynnag iaith mae'n ei ddewis.

Mae blog swyddogol ymgeisydd neu aelod etholedig o blaid wleidyddol yng Nghymru yn fater arall. Dylai hwn fod yn gwbwl ddwyieithog fel pob cyhoeddiad arall gan aelod o blaid wleidyddol yng Nghymru.

Ti gododd y poeth ;-)

 
At 2:36 pm, Blogger Nic said...

Ymddiheuriadau i Ciaran am fod y maes wedi bod ar gau i aelodau newydd - mae ar agor bellach.

Dw i'n gwybod dy fod di'n jocan gyda dy bost Ciaran, ond dw i ddim y person mwya anodd i gysylltu â fe, a byddwn i wedi creu cyfrif i ti yn syth 'swn i'n gwybod doedd dim un 'da ti, a dy fod di am gyfrannu.

Dim ond nawr dw i'n sylweddoli dy fod di'n medru'r Gymraeg ;-)

 
At 2:42 pm, Blogger Blamerbell said...

Wnes i chwilio am gyfeiriad ebost ar maes-e ac ar dy flog heb unrhyw lwc...

 
At 2:42 pm, Blogger Blamerbell said...

Wow! newydd sylwi ar y llun:)

 
At 2:52 pm, Anonymous Anonymous said...

Dyma fy llwyddiannau i ar maes-e:
Pwysleisio pwysigrwydd parch anferthol tuag at gyfoeth y Gymraeg e.e. geirfa, ymadroddion, Geiriadur yr Academi...
Cwestiynu'r mudiad Cymuned- tactegau, sloganau...Dwi wedi cael dylanwad mawr. Mae hyn yn hollol amlwg...
Beirniadu'r meddylfryd Cul Cymru- rwtsh di-glem a diweledigaeth sy'n dal y diwylliant Cymraeg yn ol. Gorfodi i ambell aelod o maes-e i gnoi cil...
Dadlau'n rhesymol o blaid Steddfod Lerpwl 2007. Hyn yn mynd i gael effaith bositif ar Steddfod Fflint 07- bydd yna fwy o ddosus Cwl Cymru yn ystod wythnos y Brifwyl.
Cefais fy ngwahardd y tro cyntaf. Y rheswm? Bod yn "boen yn y pen ol". Ia wel, peidiwch a meiddio ymuno hefo maes-e a dangos mymryn o angerdd, brwdfrydedd a threiddgarwch. Os y byddwch yn taro'r hoelen ar ei phen yn rhy aml yna bydd rhai yn drysu'n lan ac yn panicio. Tydi'r chwarel o syniadau ddim digon dyfn parthed y diwylliant Cymraeg. Mae gan maes-e a'r Rhithfro Cymraeg botensial aruthrol.Trwy gicio a brathu mae cariad at iaith yn magu!!

 
At 3:21 pm, Blogger Rhys Wynne said...

Mae'n debyg mai o herwydd y person 'di-enw' diwethaf (Martin) y caeodd Nic mes-e i aelodau newydd yn y lle cyntaf.

 
At 3:48 pm, Anonymous Anonymous said...

Beth yn union yw gweledigaeth pwysigion GOLWG er mwyn bywiogi'r fforwm drafod sydd eisioes yn bodoli ar wefan y cylchgrawn? Tybed a oes gan perchennog y blog yma unrhyw syniadau?

 
At 5:02 pm, Blogger Blamerbell said...

Na. Ond mae'r golygydd yn darllen y blog, felly cei di ateb siwr o fod...

 
At 8:10 pm, Anonymous Anonymous said...

Martin, os nad oes neb eisiau defnyddio'r fforwm does dim bydd all Golwg wneud am y peth.

A dweud y gwir efallai y byddai'n fwy poblogaidd petai ti ddim yn ei sbamio.

Yn bersonol dw i ddim yn gweld pwynt rhannau'r drafodaeth rhwng Maes-E a fforwm arall. (Er bod Nic yn damio llwyddiant ei wefan bob hyn a hyn).

 
At 2:18 pm, Blogger Nic said...

Am y record, nid ar Martin oedd y bai, y tro 'ma.

 
At 9:20 pm, Anonymous Anonymous said...

Pam ddylai'r Rhithfro Cymraeg fodlonni ar un seiat drafod wirioenddol prysur yn unig? Mae'n amlwg fod gan Blamerbell lot o dalent. Dylai ymuno hefo seiat Golwg a rhoi cic yn din y fforwm yma cyn ystyried ymuno hefo maes-e! Dylai Golwg gael gwared ar golofn Lisa Reich a defnyddio'r pres maent yn ei safio er mwyn gwella/bywiogi'r forwm.

 
At 9:40 pm, Blogger Blamerbell said...

Rhy hwyr! Dwi newydd ymuno a maes-e.

Be wnewn ni ddadlau amdano nawr?

 
At 10:33 am, Anonymous Anonymous said...

Blamerbell- pam na wnei di ymuno hefo fforwm GOLWG yn ogystal? Dwi'n siwr y bydd dy golofn di yn y cylchgrawn yn un o safon (llawer iawn gwell na rwtsh Ms Reich). Os wyt ti yn mynd i dderbyn pres am dy golofn yna dwi ddim yn meddwl ei bod hi'n ormod gofyn i chdi ymuno hefo fforwm GOLWG a postio negeseuon o bryd i'w gilydd. Pam lai?! Wyt ti'n mynd i son am y fforwm yn dy golofn? Faint o botensial sydd gan y fforwm? Rwtsh llwyr yw'r gred na all y bydysawd Cymraeg gael mwy nag un fforwm drafod prysur a dylanwadol. Efallai ei bod hi'n ormod gofyn i un GOLWG gyrraedd yr un lefel o brysurdeb ag un maes-e. Ond mae yna botensial aruthrol yn fama.

 

Post a Comment

<< Home