LLafur a'r Toriaid yn anwybyddu'r Gymraeg - Labour and Tories ignore the Welsh language

Rhyfedd iawn yw llwytho wefan y pleidiau Llafur neu Ceidwadol a gweld diffyg llwyr defnydd o'r iaith Gymraeg, ac eleni yn blwyddyn etholiad holl bwysig. Tydy pleidleisiau siaradwyr Cymraeg gwerth dim iddyn nhw?

Ar safle'r blaid Lafur does dim hyd yn oed opsiwn i lwytho'r tudalen yn y Gymraeg; mae'r holl beth yn Saesneg. Dyw wefan y Ceidwadwyr ddim llawer gwell. Er i Glyn Davies honni mae'r Toriaid yw plaid yr iaith rhagor, dim ond un adran bach ar amcanion y blaid sydd i'w gael yn Gymraeg. Mor belled ac dwi'n gweld does dim modd cyfieithu nodweddion arall y safle chwaith. Dyna agwedd od i 'blaid yr iaith' gweithredu.

Chwarae teg i'r Democratiaid Rhyddfrydol, mae opsiwn ganddyn nhw ar waelod y sgrin i gyfieithu'r holl beth i'r Gymraeg. Serch hynny, y ffordd tecach yw i adael i ddarllenwyr penderfynnu pa iaith sydd orau ganddyn nhw cyn mynd at unrhyw gynnwys. Dyna'r sefyllfa efo Plaid Cymru, sydd a wefan hollol gytbwys (ond plis trowch y fflipin jingl 'na bant!).

Yn y cyfamser, mae pob ymgais gan Llafur a'r Toriaid i ennill pleidleisiau ar sail eu agwedd at faterion yn ymwneud a'r iaith Gymraeg yn hollol rhagrithiol tra eu bod nhw'n cynnal wefannau mor unllygeidiog.

(Dwi'n ymwybodol nad oes llawer o gynnwys Cymraeg ar y blog yma chwaith! Sori, mae mwy i ddod yn yr wythnosau nesaf - ond dyw hon ddim yn blog i Gymry yn unig, ac dyw Cymraeg Blamerbell ddim llawer well na'i Japanese.)

And, for English-speaking readers wondering what the hell is going on... The homepages of both Labour and the Conservatives in Wales contain little or no use of the Welsh language. This despite the Tories' Glyn Davies wanting the party to become the natural choice for Welsh speakers. It's shocking that in an election year, better provisions have not been made.

Labels: , , , , , , , , , ,

posted by Blamerbell @ 9:26 am,

8 Comments:

At 9:37 am, Blogger Ted Jones said...

Sylwadau hollol teg. Yn enwedig ymysg y Ceidwadwyr sy'n hyrwyddo'r syniad o ddeddf iaith newydd tra'n anwybyddu'r gymraeg ar ei wefan a'i taflennu. Yn etholiad 2005 yn rhai seddi taflennu swyddogol saesneg roedd yn cael ei dosbarthu gyda rhif ffon i bobol roedd moin taflennu cymraeg - lle roedd hyn? Gorllewin Caerfyrddin - y shir gyda'r mwyaf o siaradwyr cymraeg yng Nghymru.

 
At 10:22 am, Blogger Aled said...

Mae'n rhaid fod dy Siapanaeg yn wych ta! Edrych ymlaen at fwy o sdwff Cymraeg, er rwy'n deall mai nid blog i Gymry yn unig sydd gen ti.

 
At 12:14 pm, Anonymous Anonymous said...

Who gives a fcuk?

Everyone speaks English. It is jsut nto a major issue. Any political party who thinks that a minority langauge is more important than the economy and public services are living in a dream world.

It proves you have become part of the Welsh establishment if you actually think somehting like this matters at all to the people of Wales.

I suspect it was your thick sister who put you up to it.

 
At 1:22 pm, Blogger Aled said...

Someone remove the chip from that man's shoulder!

It is something tha matters geatly to 20% of the electorate, and is especially pertinent given that the Conservatives are aiming for the Welsh-speaking vote. Given that Welsh-speakers are more likely to turn out in Assembly elections than English-speakers, it's something the parties should ignore at their peril.

 
At 3:05 pm, Blogger Blamerbell said...

Paul, I think you should learn English properly before you start criticising the Welsh language.

 
At 10:12 pm, Blogger plaid wrecsam said...

Isn't there a way for Paul to be matched up with Jade - they'd make a lovely couple.

 
At 10:43 pm, Blogger Professor Dylan Jones-Evans said...

Dim yn wir yma yn y Gogledd bois!!

Mi fydd safle gwe Ceidwadwyr Aberconwy yn cael ei lansio yr wythnos nesaf ac mi fydd ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, blaw am y blog (am y tro!)

...ac oherwydd cyn gyfarwyddwr Saatchi sydd y tu ol i'r safle, mi fydd tipyn o steil i fynd hefo'r cynnwys ardderchog!!

 
At 1:53 pm, Blogger Blamerbell said...

"Mi fydd safle gwe Ceidwadwyr Aberconwy yn cael ei lansio yr wythnos nesaf ac mi fydd ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg"

Falle wir, ond da ni'n siarad Cymraeg yn y de hefyd cofia!

 

Post a Comment

<< Home